dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYW IÂR, PESTO A SALAD TATWS

CYW IÂR, PESTO A SALAD TATWS

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 4

CYNHWYSION

520g/1 pwys 2 owns o datws newydd - heb eu plicio
3 brest cyw iâr - heb y croen, wedi'u coginio ac wedi'u torri'n ddarnau bras
113g/4 owns o spigoglys
2 lwy de o besto
sudd 1 lemwn
3 llwy fwrdd o olew olewydd
halen môn
pupur du
DULL
Berwch y tatws mewn dwr berwedig am 15 munud. Gwaredwch y dwr a dychwelwch y tatws i'r sosban, a'u malu gyda fforc. Ychwanegwch y darnau o gyw iâr at y tatws ac yna'r sbinaets. Cymysgwch yn araf gan ddefnyddio llwy fawr neu eich dwylo. Yn olaf, ychwanegwch y pesto, halen a phupur, sudd lemwn a'r olew. Cymysgwch yn dda fel bod yr holl gynhwysion yn cael blas y sudd. Ychwanegwch halen a phupur fel y gwelwch yn dda.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY