DULL
Mewn padell ddofn, cynheswch y menyn nes ei fod wedi toddi. Ychwanegwch y blawd i greu pâst ac yna'r llaeth fesul dipyn. Ychwanegwch y caws ac yna'r cennin syfi a'u cymysgu i mewn i'r saws. Rhowch y darnau o bysgod yn y saws a gadewch i ffrwtian ar wres cymedrol am ryw 5-8 munud. Ychwanegwch halen a phupur yn ôl y gofyn. I baratoi'r tatws, toddwch y menyn mewn padell, ychwanegwch y dwr, winwns, tatws, halen a phupur a gadewch i ffrwtian am ryw 10-15 munud, nes bydd y tatws yn dyner. Gweinwch y pysgod gyda'r tatws a llwyaid o saws.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley