DULL
Gwnewch saws béchamel gyda'r menyn, blawd a'r llaeth ac ychwanegwch y Camembert. Cymysgwch yn dda nes fydd y caws wedi toddi i greu saws llyfn. Gadewch i oeri ychydig. Yna ychwanegwch y melynwy, pupur cayenne, halen a phupur a'i gymysgu'n dda. Irwch y ramekins' gyda menyn, ac yna'r cnau a'r briwsion bara. Curwch y gwynwy gyda sudd lemwn hyd nes bydd y gwynwy yn sefyll yn gadarn. Llanwch y ramekins' gyda'r gymysgedd ryw 1/3 o'r top, ychwanegwch ddarn o'r caws Dolcelatte ac yna gorchuddio gyda gweddill y gymysgedd. Lenwch bain-marie' addas gyda phapur a llanwch ryw 1cm i fyny gyda dwr. Gosodwch y ramekins' yn y tun, dewch a nhw i'r berw ac yna ei rhoi yn y ffwrn i bobi ar wres o 190ºC/380Fº/Nwy 5 am 10 munud. Yn ofalus tynnwch y soufflés o'r ramekins, gallwch gadw'r soufflés am ychydig oriau. I ail bobi rhowch mewn ffwrn dwym iawn (220ºC/430ºF/Nwy 7) am ryw 5 munud.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley