DULL
Rhowch flas i'r cig gyda'r winwns, shibwns, garlleg, pupur, powdr cyrri a'r halen. Rhowch y gymysgedd yn yr oergell i farinadu am o leiaf 30 munud ond dros nos os yn bosib. Yna, crafwch bopeth oddi ar y cig a'u gosod i'r naill ochr. Ffriwch y cig yn yr olew tan yn frown. Ychwanegwch y 2 gwpanaid o ddwr a mudferwch tan yn feddal. Ychwanegwch fwy o ddwr os oes angen. Ychwanegwch y sesnadau. Mudferwch am tua 2 - 3 awr. Gweinwch yn dwym gyda reis wedi ei ferwi.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley