DULL
Cymysgwch y cynhwysion i gyd at eu gilydd ac ychwanegwch ddigon o ddwr oer er mwyn creu toes ysgafn sy'n ddigon cadarn i wneud twmplenni hir. Gweithiwch y toes yn ysgafn ac yna gwnewch ddwmplenni tua 6 x 2 modfedd o hyd allan o'r toes. Gwasgwch y twmplenni ychydig fel eu bod yn coginio'n gyfartal. Mewn padell o olew poeth (tua 3 modfedd o ddyfnder) ffriwch y twmplenni tan yn frown aur, gan eu troi bob hyn a hyn. Gadewch i'r twmplenni ddraenio ar dywelion bapur. Ychwanegwch haenen o siwgr brown a gweinwch yn dwym.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley