DULL
Mewn padell ffrio, cynheswch y pimento yn yr olew tan yn grisp ac wedyn rhowch y cwbl yn y cymysgydd. Cyfunwch yr holl gynhwysion gyda'i gilydd ar gyfer y marinâd. Tywalltwch y gymysgedd dros y pysgod, rhowch halen a phupur i flasu a gadewch i'r marinâd dreiddio mewn oergell am 2 awr neu dros nos. Cynnwch y barbeciw a gwnewch yn siwr fod y glo yn wyn cyn i chi roi'r pysgod ar y gril. Rhowch y pysgod ar gril y barbeciw â'r croen wyneb i lawr gan droi'n aml er mwyn eu hatal rhag mynd yn rhy dywyll. Gadewch i goginio'n araf.
Tip: mae blas unigryw y jerk' yn hollol seiliedig ar gyfuniad y sesnadau.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley