DULL
Y Crwst
Hidlwch y blawd a'r halen. Cymysgwch y siwed a'r braster llysiau gyda rhywfaint o'r blawd.
Cymysgwch weddill y blawd â'r gymysgedd siwed ac wedyn ychwanegwch y powdr pobi.
Ychwanegwch y gymysgedd dwr/piwrî tomato a chymysgwch nes fod y cynhwysion wedi cyfuno â'i gilydd gan adael y fowlen yn lân. Dylai'r toes fod yn gadarn. Trowch y toes ar fwrdd sydd â blawd arno a'i weithio tan ei fod yn llyfn. Rhannwch y toes i 40 o ddarnau a gwnewch beli allan ohonynt. Rhowch glawr drostynt a gadewch tan yn barod i wneud y patis.
Y Llenwad
Mewn sosban, twymwch y menyn ac yna ychwanegwch y mins. Ychwanegwch y dwr er mwyn creu grefi. Ychwanegwch y shibwns a'r halen a phupur i roi blas. Yna, ar wres isel, coginiwch y mins am 30 munud. Gwnewch yn siwr fod yna ddigon o grefi er mwyn sicrhau fod y llenwad yn 'moist'.
Cynheswch y ffwrn i 350ºF/175ºC/Nwy 4. Ar fwrdd sydd â blawd arno, rholiwch y peli toes i greu siap cylch fflat. Yng nghanol bob cylch gosodwch tua 1 llwy de llawn o fins ac yna plygwch y toes yn hanner dros y mins er mwyn ffurfio siâp chwarter lleuad. Gwasgwch yr ymylon at eu gilydd a'u crychu â fforch, cyn brwsio ychydig o olew ar bob pati. Rhowch y patis yn y ffwrn am tua 45 munud tan eu bod wedi brownio. Gweiniwch yn dwym.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley