dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
ACI A PHYSGODYN HALLT

ACI A PHYSGODYN HALLT

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 6

CYNHWYSION

1 pysgodyn hallt (penfras)
24 Aci aeddfed
1 winwnsyn mawr – wedi'i dorri'n fân
2 domato coginio – wedi eu deisio
1 shibwnsyn – wedi torri
4 tafell o facwn – wedi eu deisio
1 llwy fwrdd o olew
Halen a phupur du i roi blas
DULL
Rhowch y penfras i socian mewn dwr oer dros nos. Tynnwch groen y penfras i ffwrdd tra'n socian yn y dwr gan fod llawer o'r halen yn y croen. Gosodwch y pysgodyn mewn dwr oer ffres, berwch ac yna mudferwch am 30 munud. Draeniwch y dwr i ffwrdd a gadewch i'r penfras oeri. I baratoi'r aci ar gyfer coginio cymerwch yr hadau a'r leinin pinc allan. Yna, berwch am 20 munud mewn dwr berw gyda halen ac yna draeniwch. Ffriwch y bacwn a rhowch i'r naill ochr. Ffriwch y winwns, tomatos a'r shibwns yn ysgafn am 5 munud gan ychwanegu halen a phupur du i roi blas. Ffleciwch y pysgodyn ac ychwanegwch i'r gymysgedd. Ffriwch yn ysgafn am ychydig bach er mwyn cyfuno'r blasau. Gweiniwch yn boeth.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY