DULL
Glanhewch a pharatowch y pysgodyn. Gwnewch sawl toriad ar draws y pysgodyn. Mewn padell ffrio, ffriwch y winwns yn ysgafn yn y menyn. Ychwanegwch y shibwns, teim a'r llysiau ac yna ychwanegwch y stoc. Gadewch i'r gymysgedd oeri. Ar ôl iddo oeri, tynnwch y pupur gwyrdd allan a'i osod i'r naill ochr. Paratowch 2 haenen o ffoil gweddol fawr i greu parsel ar gyfer y pysgodyn. Rhowch lwyaid o'r llysiau ar y ffoil a gosodwch y pysgodyn ar eu pen ac, yn ofalus, plygwch y ffoil i greu parsel. Gosodwch ar farbeciw poeth a choginiwch am tua 15 munud neu nes bod y pysgodyn wedi'i goginio'n iawn.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley