DULL
Gwneud saws béchamel gyda'r menyn, blawd a'r llaeth ac ychwanegu'r Camembert. Cymysgu'n dda nes i'r caws doddi i greu saws llyfn. Gadael i oeri ychydig cyn ychwanegu'r melynwy, pupur cayenne, halen a phupur a chymysgu'n dda.
Iro'r ramekins gydag ychydig o fenyn. Cymysgu'r cnau a'r briwsion bara gyda'i gilydd a'u defnyddio i orchuddio ochrau a gwaelodion y ramekins.
Curo'r gwynwy gyda'r sudd lemwn nes i'r gwynwy sefyll yn gadarn.
Llenwi'r ramekins gyda'r gymysgedd tua 1/3 o'r top, ychwanegu darn o'r caws Dolcelatte ac yna gorchuddio gyda gweddill y gymysgedd.
Rhoi tua 1cm o ddwr mewn dysgl pyrex (bain-marie). Gosod y ramekins yn y ddysgl, dod â hwy i'r berw, cyn eu rhoi yn y ffwrn i bobi ar wres o 190ºC/380ºF am 10 munud. Yn ofalus tynnu'r souffles o'r ramekins. Cyn gweini, eu pobi mewn ffwrn twym iawn am tua 8-10 munud.
Gweini'n syth
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley