dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PATE FFA CYMYSG

PATE FFA CYMYSG

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

450g o ffa cymysg tun -wedi eu draenio
2 llwy fwrdd o olew yr Olewydd
Sudd 1 lemwn
2 clôf garlleg
1 llwy fwrdd coriander ffres - wedi torri'n fan
1-2 shibwnsyn - wedi eu torri
Halen Môn a phupur du
Shibwnsyn wedi sleisio i weini.
DULL
Golchi'r ffa yn dda. Rhostio y garlleg yn y ffwrn mewn ychydig o olew nes yn frown golau, a bod yn ofalus rhag eu llosgi.

Rhoi'r garlleg a'r ffa mewn i brosesydd bwyd a'u chwyrlio nes yn llyfn.
Ychwanegu'r olew, sudd lemwn, coriander a'r shibwns a'u chwyrlio unwaith yn rhagor. Halen a phupur i flasu.

Trosglwyddo'r pate i ddysgl weini addas, gadael yn yr oergell am o leia' 30 munud. Gweini gyda bara ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY