DULL
Paratoi'r Saws Bechamel o flaen llaw
Cymysgu'r wyau a'r llaeth gyda'i gilydd. Hidlo'r blawd a'r halen I mewn i'r gymysgedd. Ychwanegu'r llaeth a'r wyau a'u curo'n dda I gael gwared o unrhyw lympie. Cymysgu'r bara lawr i fewn i'r gymysgedd cyn arllwys y menyn (wedi toddi).
Gadael i sefyll am awr yn yr oergell.
Toddi'r menyn a coginio'r garlleg nes yn frown golau. Ychwanegu'r spigoglys a'u coginio am 1-2 munud. Draenio'r hylif I ffwrdd a'i adael i oeri ar blât.
Cymysgu'r caws ricotta, wy, parmesan, nytmeg, croen lemwn a'r sbigoglys. Ychwanegu halen a phupur.
Ffrio'r winwns a'r garlleg yn y menyn. Ychwanegu'r piwrî a choginio am tua 2 funud.
Ychwanegu'r gwin a lleihau'r saws cyn ychwanegu'r tomatos, halen a phupur a'I goginio am hanner awr ar wres isel.
I weini'r cyfan, coginio'r grempog ar y ddwy ochr mewn padell nes yn frown olau.
Ychwanegu tua dwy lwy fwrdd o'r llenwad caws I ganol y grempog a phlygu'r ochrau i wneud parsel caeëdig, gan ofalu nad yw'r llenwad yn dod allan.
Trosglwyddo i ddysgl addas i'r ffwrn. Arllwys y saws tomato ar ben y crempogau ac yna'r saws béchamel. I orffen, taenu ychydig o gaws parmesan ar ei dop a'I roi o dan gril cynnes I frownio am tua 5 munud.
Draenio'r hylif i ffwrdd a'i adael i oeri ar blât.
Cymysgu'r caws ricotta, wy, parmesan, nytmeg, croen lemwn a'r sbigoglys. Ychwanegu halen a phupur.
Ffrio'r winwns a'r garlleg yn y menyn. Ychwanegu'r piwrî a choginio am tua 2 funud.
Ychwanegu'r gwin a lleihau'r saws cyn ychwanegu'r tomatos, halen a phupur a'i goginio am hanner awr ar wres isel.
I weini'r cyfan, coginio'r grempog ar y ddwy ochr mewn padell nes yn frown olau.
Ychwanegu tua dwy lwy fwrdd o'r llenwad caws i ganol y grempog a phlygu'r ochrau i wneud parsel caeëdig, gan ofalu nad yw'r llenwad yn dod allan.
Trosglwyddo i ddysgl addas i'r ffwrn. Arllwys y saws tomato ar ben y crempogau ac yna'r saws béchamel. I orffen, taenu ychydig o gaws parmesan ar ei dop a'i roi o dan gril cynnes i frownio am tua 5 munud.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley