DULL
Cymysgu'r caws, wy, mwstard, saws Lea & Perrins, paprica a'r cwrw gyda'i gilydd yn dda mewn powlen fawr.
Gadael i sefyll yn yr oergell am awr.
Mewn sospan, dod a'r gwin coch, fanila pod, star anise, croen yr oren, sinamon, sinsir
a'r siwgr brown i'r berw. Rhoi'r gellyg yn y sosban a gadael i fudferwi ar wres isel am tua 40 munud.
Gadael y cyfan i oeri yn yr oergell.
Yn ofalus, torri'r gellyg yn hanner ar eu hyd a thynnu'r hadau allan o'r canol i greu pant.
Llenwi gyda llwyed dda o'r gymysgedd caws.
Rhoi o dan gril ar wres cymedrol i doddi a brownio'r caws a chynhesu'r gellyg.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley