DULL
Cynheswch yr olew mewn dysgl caserol mawr. Rhwbiwch y cig gyda halen a phupur a browniwch fesul ychydig yn y badell. Rhowch y cig i'r ochr.
Yn yr un badell, coginiwch y winwns a'r garlleg am ryw ddwy funud cyn ychwanegu'r pupur coch, sinsir, lemwnwelltyn a'r chilli a browniwch hwy. Ychwanegwch y piwrî a coginiwch am ryw 4 munud cyn ychwanegu'r stoc, Nam Pla, siwgr a chroen yr oren a'r darnau o gig oen a cymysgwch hwy'n dda.
Rhowch yn y ffwrn ar wres o 180° am awr a hanner.
Twmpleni Coriander a Leim
Mewn powlen fawr cymysgwch y siwet, blawd, halen a phupur, winwnsyn, croen y leim a'r coriander gyda'i gilydd. Yna ychwanegwch yr wy a'r llaeth. Cymysgwch a gwnewch beli bychain o'r gymysgedd.
Ar ôl awr a hanner o goginio, tynnwch y caserol o'r ffwrn ac ychwanegwch y twmplenni, llaeth coconyt, ychydig o'r coriander, a'u rhoi nôl yn y ffwrn am hanner awr arall.
Gweinwch gyda choriander ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley