dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL MADARCH A SINSIR

CAWL MADARCH A SINSIR

CATEGORI : CAWL

DIGON I :

CYNHWYSION

75g o fenyn
1 winwnsyn wedi torri'n fân
2 glof o arlleg wedi torri'n fân
1 pwys o fadarch chestnut, wedi sleisio'n denau
1 gwydraid o win gwyn da
2 beint o stoc cyw iâr
100ml o hufen curo
Halen Môn
Pupur Du

I weini
2-3 sleisen denau o sinsir ffres
Dyrned o gennin syfi (chives) ffres
DULL
Toddwch y menyn a choginiwch y winiwns a'r garlleg nes yn feddal. Ychwanegwch y madarch a'u coginio nes yn frown golau.

Arllwyswch y gwin i'r sosban at y cynhwysion eraill a choginiwch er mwyn ei leihau i hanner yr hylif.

Ychwanegwch y stoc a choginiwch y cawl am 40 munud ar wres isel. Gadewch i oeri ychydig.

Chwyrliwch y cawl nes yn llyfn ac yna ychwanegwch yr hufen.

I weini
Ychwanegwch y sinsir at y cawl. Peidiwch a chwyrlio'r sinsir rhag ofn i'r blas fod yn rhy gryf. Torrwch ddarnau o gennin syfi yn fân a gwasgarwch ar dop y cawl.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY