dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PEI PYSGOD

PEI PYSGOD

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 8

CYNHWYSION

Y Pysgod a'r saws
800g darn o benfras (cod)
2 litr o laeth cyflawn
1/2 winwnsyn a chlôf o arlleg wedi gwthio i fewn iddo
1 deilyn bae
200g o fenyn
1 winwnsyn - wedi torri'n fân
200g o flawd
1/2 llwy de o nytmeg ffres - wedi gratio
100 ml o hufen sengl
1 llwy fwrdd o ddil ffres - wedi torri'n fân
800g o gorgimychiaid (prawns) ffres
1 cenhinen - wedi sleisio'n denau

Y Tatws Stwmp
700g o datws Maris Piper - wedi stwnsio
Menyn
1 Wy (melynwy)
1 llwy fwrdd o hufen sengl
Dyrned o bersli ffres - wedi torri'n fân

I weini
100g o gaws - wedi gratio
DULL
Mewn padell ddofn, mudferwch y pysgodyn yn y llaeth gyda'r winwnsyn a'r ddeilen fae am 5 munud. Tynnwch y pysgodyn allan o'r llaeth a rhowch i'r ochr ar blât.

Mewn ffreipan, toddwch y menyn a meddalwch y winwns. Ychwanegwch y blawd a'r nytmeg a'r llaeth fesul dipyn o badell y pysgodyn. Ychwanegwch yr hufen a'r dil i greu saws trwchus.

Ffriwch y cennin yn y menyn.

Berwch y tatws ac wedi iddynt goginio ychwanegwch y menyn, wy, hufen ac ychydig o bersli a chymysgwch yn dda.

Berwch y corgimychiaid ffres mewn ychydig o ddwr am tua 2/3 munud, yna pliciwch hwy. Tynnwch y croen oddi ar y penfras a'i dorri yn ddarnau bras.

Gan ddefnyddio dysgl digon o faint, adeialdwch y pei gyda'r saws, yna haenen o benfras, corgimychiaid, ac ychydig o'r saws, yna'r cennin i gyd gan ail adrodd y broses a'i orffen gyda'r tatws stwmp a chawod o gaws.

Coginiwch am 25munud ar wres o 160°c nes i'r caws doddi a brownio.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY