dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PWDIN AFAL A MERINGUE

PWDIN AFAL A MERINGUE

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I :

CYNHWYSION

8 afal coginio - wedi eu plicio, yr hadau wedi eu tynnu a'r afalau wedi eu torri yn 16 darn
50g o fenyn
50g o siwgr brown
100ml o sudd afal
1/4 llwy de o bowdr sinamon
Croen 1 leim
Sudd 2 leim
1/2 paced o fisgedi digestive - wedi malu yn friwsion

Y meringue
3 gwyn wy
6 llwy fwrdd o siwgr mân
1 llwy de o sudd lemwn
DULL
Cynheswch y ffreipan a toddwch y menyn. Coginiwch yr afalau am 8-10 munud nes iddynt ddechrau brownio. Arllwyswch y siwgr i'r ffreipan a'i doddi. Yna y sudd afal, y croen a sudd y leim a'r sinamon a gadewch i ffrwtian am tua 4 munud.

Mewn powlen fawr, curwch y gwyn wy gan ychwanegu'r sudd lemwn a'i gymysgu nes iddo dewhau digon i sefyll mewn pig. Ychwanegwch y siwgr mewn tri chymal a cymysgwch yn dda bob tro. Fe ddylai'r gwyn wy nawr fod yn drwchus.

Trosglwyddwch y gymysgedd afal i waelod bowlen pobi addas. Rhowch friwsion y bisgedi ar ben yr afal ac yna'r gymysgedd meringue ar ei dop. Pobwch ar wres uchel (220 °c) nes i'r top galedu ychydig a brownio.

Tip
I falu'r bisgedi, rhowch mewn bag plastig a malwch y bisgedi â rholbren - rhwydd a dim llanast!


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY