dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BRITHYLL GYDA SAWS GWIN A CHAPRYS

BRITHYLL GYDA SAWS GWIN A CHAPRYS

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 2

CYNHWYSION

1 brithyll - 2 ffiled heb yr esgyrn
olew olewydd
1 llwy de o baprica
2 ewin o arlleg - wedi eu sleisio'n fân
½ torth o fara - wedi'i briwsioni
60g/2¼owns o gaws parmesan - wedi'i gratio
1 winwnsyn - wedi ei dorri'n fân iawn
25g/1owns o fenyn Cymreig - i ffrio
½ gwydred o win gwyn (chardonnay)
dyrned o bersli ffres - wedi'i dorri
2 lwy de o gaprys
275ml/½ peint o hufen
halen môn
pupur du

i weini:
lemwn ffres
DULL
Y Pysgodyn:
Rhowch halen a phupur, paprica a darnau o arlleg dros y brithyll. Mewn ffreipan, twymwch yr olew a browniwch y pysgodyn ar ochr y cig (nid ochr y croen). Yna, trowch y pysgodyn drosodd a'i goginio ar y ddwy ochr.Taenwch ddyrned o'r briwsion bara a'r caws Parmesan dros y pysgod a browniwch o dan y gril.

Y Saws:
Mewn padell, toddwch y menyn a ffriwch y winwns. Ychwanegwch y gwin gwyn a'i leihau ac yna'r hufen, caprys a'r persli ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY