dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BYRGER CIG EIDION

BYRGER CIG EIDION

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 6 - 8

CYNHWYSION

2 bwys o ‘Mince' cig eidion
2 winwnsyn - wedi torri'n fân
3 clof o arlleg - wedi torri'n fân
Pinsied da o deim sych
Dyrned o bersli ffres - wedi torri'n fân
Pinsied da o halen Môn a phupur du
Caws Ementhal neu Gruyere - wedi‘i gratio
Olew yr olewydd
Buns Bara
DULL
Cymysgu'r cig â'r winwns, garlleg, teim a halen a phupur. Ychwanegu'r persli a cymysgu eto.

Siapio'r gymysgedd i beli. Gwneud pant yng nghanol y peli a llenwi gyda llond llwy o gaws. Tynnu'r ochrau i fewn i orchuddio'r caws a gwasgu i lawr i greu 'byrger'.

Cynhesu'r olew mewn padell a coginio'r byrgers ar y ddwy ochr nes yn frown.

Gweini mewn 'bun' bara.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY