dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
STECEN O GIG EIDION CYMREIG

STECEN O GIG EIDION CYMREIG

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 stecen Sirloin (16 owns)
250g o fadarch cymysg (chestnut, gwyn a shitake)
25g Menyn
2 Tomato - wedi eu haneru
Halen Môn a Phupur Du

Y Saws
25g Menyn
1 Winwnsyn - torri'n fân
250g Madarch cymysg - wedi torri
Gwydraid o win gwyn
Joch o wisgi
½ peint o - toc cig eidion
Sbrigyn o deim ffres

Winwns mewn Tempura Batter
2 Winwnsyn - wedi sleisio yn gylchoedd (rings)
30g o ‘corn flour'
85g Blawd plaen
1 wy - wedi ei guro
250ml o ddwr â fizz
Olew llysiau (i ffrio)
DULL
Taenu ychydig o halen a phupur du dros y ddau sirloin.

Cynhesu'r ffreipan a thoddi'r menyn.
** Tip - Os oes angen mwy o goginio ar un darn o gig, defnyddio 2 ffreipan i hwyluso y broses, gan roi caead ar dop y ffreipan os oes angen stecen ‘well done' i gadw'r gwres i mewn rhag iddo losgi.**

Rhoi'r tomato a'r madarch yn y ffreipan gyda'r stecen.
Coginio'r stecen am 3 - 4 munud bob ochr ar gyfer ‘medium-rare' a tua 5 - 6 ar gyfer ‘well done'.

Y Saws

Mewn padell, cynhesu'r menyn ac ychwanegu'r winwns a'u coginio ychydig cyn ychwanegu'r madarch. Yna'r gwin a'i adael i leihau cyn ychwanegu'r wisgi, y stoc a'r teim a'i gymysgu. Ei adael ar wres isel i ffrwtian


Winwns mewn "Tempura Batter"

Mewn dysgl fawr, rhoi'r blawd, wy a'r dwr a'i gymysgu yn dda gyda fforc.

Mewn padell ddofn, rhoi digon o olew llysiau a'i gynhesu at dymheredd uchel.
Fesul un, rhoi'r cylchoedd winwns i mewn i'r batter ac yn syth i fewn i'r olew.
(Os nad ydi'r batter yn ffrio yn syth, twymwch am 1 - 2 o funudau eto ac ail adrodd y broses). Ffriwch y winwns tan yn grisp.

Gweinwch y stecen gyda'r madarch, tomato, winwns batter, a rhoi y saws mewn jwg ar wahan.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY