dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BOEF EN DAUBE

BOEF EN DAUBE

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4 - 6

CYNHWYSION

3 lb/1.4kg o gig eidion wedi torri'n giwbiau (2" (shin))
1 lb/450g darn o gig moch - wedi coginio
3 winwnsyn - wedi eu torri'n haenau
3 llwy fwrdd o olew yr olewydd
3 llwy fwrdd o fenyn
3 llwy fwrdd o flawd plaen
2 glôf o arlleg
1 darn o groen oren (wedi ei sychu)
2 glôf
Gwydred o win coch
250ml o hufen sengl
½ peint o stoc cig eidion
Bouquet garni (2 sbrigyn o deim, 4 sbrigyn o bersli, 2 ddeilen bae)
Halen Môn a phupur du
DULL
Torrwch y cig moch yn giwbiau mawr.
Cymysgu'r blawd gydag ychydig o halen a phupur a gorchuddio'r darnau o gig gyda'r blawd.

Mewn padell, cynhesu'r olew a'r menyn, ar wres cymhedrol a choginio'r cig moch, y garlleg a'r winwns gyda'i gilydd nes i'r winwns feddalu. Rhoi'r cyfan o'r neilltu. Yn yr un badell ychwanegu'r cig eidion a'i frownio.

Mewn dysgl caserol digon o faint, rhoi'r cig eidion, y gwin coch, cig moch, garlleg a'r winwns, pinsied o halen a phupur, a'r clôfau a chymysgu'r cyfan yn dda. Yn olaf ychwanegu'r hufen, y stoc, croen yr oren, a'r bouquet garni.

Coginio yn y ffwrn am 2 ½ awr ar wres o 140'c.

I Weini
Pinsied o bersli a llysiau o'ch dewis


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY