DULL
Golchi'r ffrwythau a'u sychu.
Torri y ffrwyth yn ½ ac yn 1/3 a thynnu'r ffrwyth a'r pith oddi ar y croen, gan gadw'r croen i'r naill ochr. Rhoi'r ffrwyth mewn sosban fawr gyda'r dwr, dod ar cyfan i'r berw a'i mud ferwi ar wres isel am 3 awr.
Hidlo'r ffrwythau gan gadw'r sudd yn y sosban a gwaredi'r ffrwythau.
Gyda siswrn, torri croen y ffrwyth yn ddarnau (strips') tene a'i roi mewn sosban fach gyda ychydig o ddw^r, eu berwi am tua 20 munud, nes fydd y croen yn feddal.
Ychwanegu'r darnau o groen a'r siwgr at y sosban fawr o sudd, dod ar cyfan i'r berw eto. Roi ychydig ohono ar soser, os oes cramen yn ffurfio mai'n barod.
Yn ola, ychwanegu'r menyn i'r sosban eu cymysgu'n dda,(i waredu unrhyw scum'). Arllwys y marmalade i jariau sydd wedi cael ei baratoi.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley