DULL
Iro'r powlenni pwdin yn dda gyda menyn a thaenu ychydig o siwgr mân drostynt. Gosod cylch o bapur 'greasproof' ar waelod pob powlen.
Hidlo'r siwgr, blawd a'r sbeis cymysg i fowlen cymysgu digon o faint. Ychwanegu'r siwet, briwsion a'r cnau almwnd a'u cymysgu'n dda. Yna'r cwrens, resins, sultanas a'r mixed peel'. Cymysu'r stowt gyda'r wy a'u hychwanegu at weddill y cynhwysion.
Gosod y gymysgedd yn y powlenni a'u gwasgu i lawr gyda'ch dwylo. Gosod darn o bapur greasperoof' ar dop y cyfan ac yna caead ffoil dros y pwdin.
Gosod y powlenni mewn tun neu sosban fawr gyda digon o ddwr i orchuddio dros waelodion y powlenni, clawr am eu pen ac i mewn i'r ffwrn ar wres o 160ºC. Stemio am 3 awr.
Rhaid stemio am 1-2 awr ychwanegol cyn gweini.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley