DULL
Rhoi'r sage i sychu ar dun pobi mewn ffwrn cynnes (150ºc) am tua 10 - 15 munud. Eu gadael i oeri. Codi tymheredd y ffwrn i 180'c.
Golchi'r capon. Gyda dwylo, tynnu'r croen yn rhydd o'r cig trwy roi llaw rhwng y croen a'r cig.
Tynnu'r dail sage yn rhydd o'r coesau. Gyda dwylo, rhwbio'r sage yn ddarnau mân i fowlen addas, ychwanegu'r persli, croen lemwn, garlleg, menyn, halen a phupur. Gyda dwylo, cymysgu'r cyfan i greu 'pâst'.
Rhoi'r 'pâst' rhwng y croen a'r cig gan gadw ychydig i iro'r croen. Llenwi'r capon â'r winwnsyn, seleri a'r moron ac iro'r croen a'r pâst sy'n weddill.
Iro tun digon o faint gydag olew yr olewydd. Coginio ar ei ochor am 50 munud, ei droi a choginio am 50 munud. Tynnu'r capon allan, ei orchuddio â bacwn a'i goginio am awr arall.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley