DULL
Y Cig:
Tynnwch yr asgwrn allan o bob stecen. Rhowch binsied dda o halen a phupur trostynt a gadewch y cig i fwydo dros nos yn y gwirod, y sudd a chroen y lemwn. Cynheswch yr olew a'r menyn mewn padell ffrio a choginiwch y cig am tua 3-4 munud i selio'r cig. Rhowch i'r ochr mewn tun rhostio gan gadw'r sudd yn y badell ar gyfer y saws.
Stwffin Bara Lawr:
Mewn powlen fawr, cymysgwch y winwns, persli a'r 'sage' cyn ychwanegu'r briwsion, garlleg a'r bara lawr. Ychwanegwch wy, halen a phupur a chymysgwch y cyfan yn dda. Siapiwch y stwffin yn beli bach a'u rholio mewn ceirch. Gosodwch y peli o stwffin yn y twll yn y cig lle bu'r esgyrn a'u pobi mewn popty twym am 15-20 munud.
Y Saws:
Yn y ffreipan lle bu'r cig yn ffrio, cynheswch y gwin, yr eirin a'r finegr balsamaidd a gadewch i leihau cyn ychwanegu'r hufen. Gweinwch y cig gyda llysiau ffres o'ch dewis.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley