DULL
Sleisio'r tatws yn denau mewn cylchoedd tua 1mm o drwch.
Iro tun cacen tua 15cm gyda menyn. Gosod haenen o datws ar waelod y tun gan sicrhau fod y tatws yn lapio dros ei gilydd. Arllwys ychydig o fenyn, llond llaw o gaws, halen a phupur dros y tatws cyn ailadrodd y broses sawl gwaith nes defnyddio'r tatws i gyd. Gorffen gyda haenen o datws ac arllwys gweddill y menyn dros y tatws.
Eu pobi yn y ffwrn ar wres o 220°C/ Nwy 7 am tua 40-50 munud nes i'r tatws goginio drwyddynt.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley