DULL
Rhowch halen a phupur dros y cig. Mewn padell fawr, ffriwch y cig yn yr olew nes yn frown. Tynnwch y cig o'r badell a'i adael i orffwys. Yn yr un badell, ffriwch y winwns nes yn feddal ac yna ychwanegwch y piwre tomato a'r mwstard a'u cymysgu'n dda. Ychwanegwch y cwrw a'r stoc a gadewch i leihau am ychydig ac yna rhowch y cig yn y badell a mudferwch am awr neu nes bod y cig yn dyner. Pwysig! Gadewch i'r gymysgedd oeri cyn llenwi'r toes. Rholiwch becyn o 'Puff Pastry' mas yn haenen denau o does. Torrwch gylchoedd o does ohono a'u gosod mewn tun pobi pastai fach, gan gadw digon o does i'r caeadau. Llenwch y toes gyda'r gymysgedd cig. Brwsiwch yr wy dros y caeadau a gosodwch hwy ar ben y bastai. Gwnewch dyllau bychain yn y caeadau cyn eu pobi ar wres o 200°C am 20 munud. Bydd amser coginio'r cig yn ddibynnol ar ba fath o gig yr ydych yn prynu.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley