dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
‘ADENYDD CYW IÂR

‘ADENYDD CYW IÂR

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 20

CYNHWYSION

20 adain cyw iâr
8 clof o arlleg – wedi torri'n fan
2 llwy fwrdd o fel
2 llwy fwrdd o fwstard Dijon
2 llwy fwrdd o saws soya ysgafn
2 llwy fwrdd o ‘Peanut butter'
Diferyn o saws Tabasco
Sudd 1/2 Lemwn
4 llwy fwrdd o olew yr olewydd
2 llwy de o halen
1 llwy de o bupur du
DULL
Y Cyw Iâr
Torri'r cyw Iâr wrth yr asgwrn gyntaf a chael gwared o'r adain. Gan ddal y rhan lleia o'r ail asgwrn, ei dorri, crafu a gwthio'r cig i lawr at weddill y cig. Gyda'ch bysedd tynnu'r croen a'r cig dros yr asgwrn.

Y Saws
Malu'r garlleg a'r halen gyda'i gilydd i greu pâst. Mewn powlen gymysgu, cymysgwch y mel, mwstard, saws soya, lemwn, olew, peanut butter, Tabasco a halen a phupur. Rhoi'r cyw iâr i fewn i'r fowlen, eu gorchuddio a'u cadw yn yr oergell am o leia' 1 awr.

Cynhesu ffwrn at wres o 180'c/ Nwy 4.
Rhoi'r cyw iâr ar ‘tray' a'u coginio am tua 35 munud nes bydd y cyw iâr yn brownio.

Eu gweini yn gynnes.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY