dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
FLORENTINES

FLORENTINES

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 20

CYNHWYSION

165g o fenyn Cymreig
110g o siwgr mân (caster)
3 llwy fwrdd o hufen dwbl
95g o ‘mixed peel' – wedi torri'n fân
70g o ‘glacé cherries'
150g o gnau almwnd – wedi torri yn ddarnau bras
35g o flawd plaen
250g o siocled tywyll da
Sudd ½ lemwn
DULL
Cynhesu'r ffwrn at wres o 180ºc, marc nwy 4.
Paratoi 2 dun pobi gyda phapur pobi arnynt.

Toddi'r menyn mewn sosban, ychwanegu'r siwgr a dod â'r cyfan i'r berw.
Ychwanegu'r hufen,‘mixed peel', ceirios, cnau almwnd, blawd a sudd y lemwn a'u cymysgu'n dda cyn eu tynnu oddi ar y gwres.

Gan ddefnyddio llwy de, rhoi cylchoedd o'r gymysgedd ar y tun pobi, gan adael digon o le rhyngddynt (tua 10cm). Defnyddio cefn y llwy i'w gwasgaru ychydig cyn pobi yng nghanol y ffwrn am 7 munud.
*Pobi un tun ar y tro.

Tra bod y bisgedi yn gynnes, defnyddio cyllell bobi i siapio'r bisgedi, Eu rhoi yn ôl yn y ffwrn i frownio am 5-6 munud yna rhoi'r ail dun i bobi.

Rhoi'r Florentines ar ddarn arall o bapur pobi i oeri a chaledu.
Pan fydd y bisgedi wedi oeri, toddi'r siocled tywyll mewn powlen fach dros sosban o ddwr twym. Rhoi llwyed o siocled i orchuddio gwaelod y bisgedi ag ychydig o'r ochrau, a'u troi wyneb i waered i sychu.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY