DULL
Mewn powlen, gorchuddio'r bara â dwr. Yna, gwasgu cymaint ag sy'n bosib o'r dwr allan.
Mewn powlen fawr cymysgu'r bara, briwgig, persli, mint, winwns, cwmin, wy, caws ac ychydig o halen a phupur gyda'i gilydd. Yna, gyda dwylo, cymysgu'r cynhwysion at ei gilydd nes yn llyfn. Eu gorchuddio a'u rhoi yn yr oergell am 30 munud.
Rhoi'r blawd ar blât a gyda dwylo rholio'r gymysgedd i mewn i beli bach.
Cynhesu'r olew mewn ffreipan. Gorchuddio'r peli gydag ychydig o flawd.
Ffrio'r peli, ychydig ar y tro, am tua 3-5 munud, nes bydd y cig wedi coginio a brownio. Eu rhoi i orffwys ar bapur gegin a'u gweini yn boeth.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley