dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PARSELI SAMWN Y NADOLIG

PARSELI SAMWN Y NADOLIG

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 8 canapés

CYNHWYSION

8 tafell o samwn wedi'i fygu (rhyw 8 cm sgwâr)
1 wy – wedi ei ferwi,(maint 3) – wedi torri'n fras
2 lwy de o capers
4 darn o bersli dail fflat – wedi'n torri'n fân
1 shallot bach - wedi'i blicio a thorri'n giwbiau
Halen Môn a phupur du
Sudd ½ lemwn
16 o gennin syfi (chives) – wedi'u trochi mewn dwr am tua10 eiliad
DULL
Mewn powlen, cymysgu'r wy gyda'r capers, persli, shallot, halen, pupur du a sudd y lemwn. Gosod y sleisys o samwn, yr ochr sgleiniog i lawr, ar blât addas a rhoi llond llwy o'r gymysgedd wy yn y canol. Plygu'r tafelli i greu parsel sgwâr, a'u clymu gyda dau ddarn o gennin syfi fel parsel Nadolig.

Eu cadw yn yr oergell nes yn barod i'w gweini.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY