dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TARTEN DOLIG

TARTEN DOLIG

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 6

CYNHWYSION

75g o granberîs ffres neu wedi rhewi
1 x 375g pecyn o does ‘Jus-Rol puff pastry' – wedi'u dadrewi
6 selsig chipolata
6 tafell o gig moch ‘dry-cure streaky' - heb y braster
50g o stwffin parod garlleg â pherlysiau (paxo) neu stwffin ffres
1 llwy fwrdd o olew yr olewydd
25g o fenyn
1 llwy de o siwgr mân
12 shallot – wedi'u plicio
1 melynwy
1 llwy fwrdd o ddðr oer
Halen Môn a phupur du
DULL
Yn gyntaf torri'r selsig i dri darn a gwneud peli bach allan o'r darnau o gig moch. Paratoi'r Stwffin parod a'i siapio'n 6 o beli bach.

Cynhesu'r olew a'r menyn mewn padell ffrio (digon o faint ac addas i'r ffwrn), ychwanegu'r siwgr a'r shallots a'u brownio dros wres uchel, gan ofalu cadw'r cyfan i droi. Ar ôl rhyw 2-3 munud ychwanegu'r peli o gig moch a'r selsig a'u brownio.

Wrth iddynt ddechrau brownio ychwanegu'r peli stwffin. Yn olaf y cranberîs, yr halen a phupur, gan wneud yn siwr bod y cynhwysion wedi eu gwasgaru yn hafal. Eu tynnu oddi ar y gwres a'u gadael i oeri yn y badell.

Rholiwch y toes allan a thorri darn digon o faint i orchuddi'r badell a'r cynhwysion. Gallwch adael hwn yn yr oergell hyd at 12 awr.

Cynhesu'r ffwrn at wres o 200°C.
Cymysgu'r wy a'r dðr gyda'i gilydd a'u taenu dros y toes cyn pobi am ryw 20-25 munud, nes bod y toes ar ben y darten wedi brownio.

Yn ofalus tynnu'r darten o'r badell a'i gweini ar blât addas.
Mae'r darten yn flasus yn gynnes neu yn oer.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY