dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TRYFFLS GRAND MARNIER

TRYFFLS GRAND MARNIER

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 25

CYNHWYSION

90g o Siocled chwerw, ‘flaked'
50ml o hufen curo
30ml o Grand Marnier
125g o bowdwr cocoa - heb fod yn felys
250g o siocled coginio plaen - i orchuddio
DULL
Rhoi'r siocled chwerw mewn powlen.
Dod a'r hufen curo i'r berw a'i arllwys dros y siocled. Curo yn dda gyda chwisg a'i adael i oeri, ond peidio a'i roi yn yr oergell. Unwaith i'r gymysgedd oeri, ychwanegu'r Grand Marnier tra'n chwisgio. Ar ôl ychydig fe ddylai'r gymysgedd fod yn llyfn a dyblu.
Creu peli bach o tua 2cm gan ddefnyddio llwy de eu rhoi ar ‘tray' sydd â phapur pobi arno.
Toddi'r siocled coginio mewn powlen dros sosban o ddwr berwedig, ei droi yn dda a'i adael i oeri rywfaint.
Gan ddefnyddio fforc, gorchuddio'r peli gyda'r saws siocled. Rhoi'r powdwr cocoa mewn ‘tray' dwfn, eu rhoi yn syth i mewn i'r powdwr cocoa a'u gorchuddio. Yn olaf rhoi'r tryffls mewn rhidyll a'u hysgwyd i gael gwared o unrhyw bowdwr a'u cadw yn yr oergell cyn gweini.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY