DULL
Gan ddefnyddio bwrdd glan:
Hidlo'r blawd a'r siwgr, creu pant yn y blawd ac ychwanegu'r menyn, y sultanas a chroen y lemwn.
Mewn powlen, cymysgu'r olew, aniseed, vanilla a'r llaeth. Yna, sudd y lemwn a'r burum a'u cymysgu gyda fforc. Yn olaf, ychwanegu'r Mosto a chymysgu'r cyfan yn dda.
Ychwanegu'r sudd bob yn dipyn at y blawd a'i gymysgu gyda'r dwylo, nes bydd yr hylif i gyd wedi cymysgu gyda'r blawd. Os yw'r gymysgedd ychydig yn sych gallwch ychwanegu ychydig o ddwr.
Gyda'r dwylo, trin y toes yn dda gan wneud yn siwr fod y toes wedi cymysgu'n dda.
Eu gadael i sefyll mewn man cynnes i godi cyn ei bobi mewn ffwrn cynnes.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley