dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TARTEN GEIRIOS A GWIROD FFRWYTHAU

TARTEN GEIRIOS A GWIROD FFRWYTHAU

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 4

CYNHWYSION

500g/1pwys 2owns o geirios ffres - heb y cerrig
2 llwy fwrdd o wirod ffrwythau du (black mountain liquor)
40g/1½owns o flawd plaen
55g/2owns o siwgr castr
3 wy
250ml/8¾owns hylif o laeth
1 diferyn o rinflas fanila
DULL
Gallwch wneud un darten fawr neu nifer o rai bychain unigol (defnyddiwch ddysgl fflan). I wneud tartennau bach, rhowch 6-8 o geirios ym mhob dysgl fechan ac arllwyswch joch da o wirod drostynt. Ychwanegwch y 'vanilla essence' at y llaeth. Rhowch y blawd, siwgr, wyau a'r llaeth mewn prosesydd bwyd a chwyrliwch y cyfan gyda'i gilydd (neu defnyddiwch chwisg). Arllwyswch y gymysgedd dros y ceirios a phobwch mewn ffwrn cynnes - 200°C am 20 munud. Gweinwch yn boeth neu'n oer


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY