DULL
Rhoi'r tomatos i fewn i sosban o ddwr berwedig a'u cynhesu nes iddynt ddechrau blistro'. Eu rhoi mewn dwr oer er mwyn tynnu'r croen ac yna ei haneru.
Cynhesu'r olew mewn padell ddofn, meddalu'r winwns, garlleg a'r seleri. Yna'r cig moch, pupur du a'u brownio. Arllwys y gwin i mewn a'r tomatos ffres, halen, pupur a'r persli a'u gadael i ffrwtian am 8-10 munud ar wres isel.
Yn y cyfamser, coginio'r pasta am ychydig funudau mewn dwr berwedig.
Cymysgu'r pasta ffres yn y saws a'i weini gyda dail basil ffres a chaws Parmesan.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley