dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
STRINGOZZI AL TARTUFO NERO

STRINGOZZI AL TARTUFO NERO

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 1

CYNHWYSION

2 lwy fwrdd o olew yr olewydd da
1 clof o arlleg
4 anchovy
1 llwy bwdin o bâst Tartufo Nero
4 llwy fwrdd o hufen sengl

I weini
Stringozzi ffres neu basta o'ch dewis
Tartufo Nero ffres
DULL
Coginio'r pasta am ychydig funudau mewn dwr berwedig.

Cynhesu'r olew mewn padell ddofn,o dan wres cymedrol. Coginio'r clof o arlleg ac yna ei dorri yn hanner gyda fforc. Ychwanegu'r anchovy, a'u gadael i doddi yn yr olew cyn
rhoi'r pâst tartuffo i mewn a'i droi. Yn olaf, ychwanegu'r hufen at y saws, a'u cymysgu'n dda.

Cymysgu'r Pasta ffres gyda'r saws a'u gweini gyda dail Persli ac ychydig o tartufo ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY