dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TAGLIATELLE AL RAGU

TAGLIATELLE AL RAGU

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

1 Winwnsyn wedi torri'n giwbiau bras
1 Moronynen wedi'i chwarteru
1 clof o arlleg
1 darn o seleri wedi torri'n hanner
2 lwy fwrdd o olew yr Olewydd
Halen a phupur du
100g o friwgig cig eidion
100g o ddarnau bras o gig eidion
1 Gwydred o win gwyn
Tomatos ffres - wedi hidlo a'u cadw mewn jar
3 llwy fwrdd o biwri tomato
Dwr (fel bo' angen)

I weini:
Pasta ffres
DULL
Mewn sosban digon o faint, cynhesu'r olew a choginio'r winwnsyn, moron, garlleg a'r seleri am tua 5 munud. Yna‘r briwgig a'r darnau o gig, halen a phupur a sblash o win. Brownio'r llysiau a'r cig a'u mudferwi am 10 munud.
Ychwanegu'r piwri tomato, y tomatos ffres a'u gadael i ffrwtian am 15 munud. Ychwanegu dwr os bydd angen - hynny yw, os bydd y saws yn mynd yn rhy drwchus.

I weini, tynnu'r llysiau a'r darnau bras o gig allan o'r saws a'u rhoi i'r neilltu.
Gweini gyda pasta ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY