DULL
Cynhesu'r ffwrn i wres o 170'C.
Hidlo'r blawd, ychwanegu'r nytmeg a'r sbeis a phinsied o halen.
Rwbio'r menyn i'r blawd, yna ychwanegu'r siwgr a'r ffrwythau sych a'u cymysgu'n dda.
Curo'r wyau gyda'r llaeth a'u hychwanegu at y gymysgedd.
Yn olaf, cymysgu'r marmalêd a'r syrup gyda gweddill y cynhwysion.
Arllwys y gymysgedd i dun pobi un pwys, wedi'i iro'n dda gyda menyn neu ei leinio gyda phapur.
Pobi am awr a chwarter i awr a hanner.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley