dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
GOLWYTHION O GIG OEN

GOLWYTHION O GIG OEN

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

Darn ‘rib' (6 golwythen) o Gig oen (French trimmed)
1 clôf o arlleg - wedi malu
Dyrned o rhosmari - wedi torri'n fan
Sbrigyn o fintys ffres

Y Saws
5g o Fenyn
Olew yr olewydd
2 shibwnsyn – wedi torri'n fân
1 gwydred o win coch
¼ peint o stoc cig oen
Halen Môn a phupur du

I weini – courgette, moron, tatws newydd
DULL
Torri'r cig oen yn ‘chops' a'u pwno ychydig, er mwyn iddynt goginio yn gynt.
Rhwbio ychydig o halen a phupur i mewn i'r cig.

Cynhesu'r olew mewn padell ffrio a rhoi'r garlleg yn y badell i greu blas ar yr olew. Coginio'r cig oen gyda'r rhosmari, tua 3-4 munud i bob ochr (yn binc). Tynnu'r cig allan a'i roi ar blât i orffwys.
Yn yr un badell, ychwanegu ychydig o fenyn a choginio'r shibwns nes yn feddal. Ychwanegu'r gwin a‘r stoc a'i leihau i greu saws trwchus.

Yn y cyfamser berwi'r tatws a'r moron ar wahan am tua 6-8 munud.
Toddi ychydig o fenyn mewn padell a choginio'r courgettes ar y ddwy ochor.

Gweini'r golwythion gyda'r llysiau a llwyed o saws.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY