DULL
Arllwyswch y dwr a'r llaeth mewn i sosban ynghyd â thalp o fenyn ac yna berwch y cyfan. Mewn sosban arall, toddwch y siwgr man mewn ychydig o laeth cyflawn. Ychwanegwch flawd plaen, dwr a menyn at y llaeth a chymysgwch yn dda er mwyn creu pâst heb lympiau. Gadewch i oeri.
Crème Patissiere:
Holltwch un 'pod vanilla' a chrafwch yr hadau i ffwrdd cyn eu hychwanegu at y llaeth a'r siwgr a berwch am ychydig. Mewn powlen, curwch y 4 melyn wy a'r siwgr man yn dda. Yna, ychwanegwch flawd plaen at y gymysgedd a churwch nes ei fod yn llyfn. Arllwyswch y llaeth twym mewn i'r bowlen a'i gymysgu'n dda er mwyn arbed lympiau. Trosglwyddwch i sosban lan a choginiwch ar wres isel am bum munud gan gofio i'w droi'n gyson.
Yna, ewch yn ôl at y gymysgedd toes, ychwanegwch wyau fesul un a churwch yn dda cyn peipio'r toes ar dun pobi. Brwsiwch y toes gydag wy a choginiwch am ugain munud ar wres o 180oc. Ar ôl iddynt oeri, mae angen llenwi pob un gyda crème patissiere cyn adeiladu twr o broffiterols ar blât. Taenwch siocled plaen wedi'i doddi drostynt ac ychydig o siwgr a chroen oren.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley