dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PANCOS TENAU

PANCOS TENAU

CATEGORI : BARA A CHACENNAU

DIGON I :

CYNHWYSION

125g / 4 owns o flawd plaen
Pinsied o halen
2 lwy fwrdd o siwgr mân
1 wy - wedi curo
300ml / ½ peint o laeth
25g / 1 owns o fenyn wedi toddi
Olew neu fenyn i iro'r badell
I weini siwgr mân a lemwn ffres
DULL
Rhoi'r blawd, yr halen a'r siwgr mewn powlen a gwneud pant yn y canol.
Arllwys yr wy ac ychydig o'r llaeth i'r pant.
Chwisgo'r gymysgedd i gymysgu'r blawd i mewn i greu pâst llyfn.
Gyda chwisg, ychwanegu'r menyn a gweddill y llaeth.
Arllwys y gymysgedd i jwg a'i gadael i sefyll ychydig.

Cynhesu'r olew neu'r menyn mewn padell addas (padell pancos neu badell ffrio 7").
Arllwys ychydig o'r gymysgedd i'r badell i greu haenen denau.
Coginio'r bancosen am 1-2 funud nes yn frown olau cyn ei throi.
Coginio'r ochr arall am ychydig eiliadau.

Gweini gyda siwgr mân a lemwn ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY