DULL
Rhoi'r blawd, powdwr codi a'r siwgr mewn powlen gymysgu neu beiriant cymysgu.
Mewn cwpan, cymysgu'r bicarbonate of soda' gyda'r finegr.
Mewn jwg, cymysgu'r wy a'r llaeth gyda'i gilydd cyn ychwanegu'r olew.
Arllwys y gymysgedd wy a'r gymysgedd finegr at y cynhwysion sych a
chwisgo'r cyfan yn llyfn. Arllwys y gymysgedd i jwg ac eu gadael i sefyll am ychydig.
Cynhesu'r badell ffrio a'i iro gyda ychydig o olew. Arllwys cylchoedd o'r gymysgedd ar y badell, eu coginio ar y ddwy ochr am tua 2-3 munud nes yn frown golau.
Gweini gyda ychydig o siwgr a menyn.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley