DULL
Rhoi'r pasta ar y bwrdd, ar ben pob darn rhoi ychydig o ddail taragon a zest lemwn.
Rhoi haenen o 'sbigoglys i orchuddio ¾ o'r pasta cyn rhoi darn o samwn ar ei ben.
Ychwanegu ychydig o halen a phupur a'i rowlio'n dynn i greu parsel.
Torri darn o cling film', rhoi ychydig o olew yr olewydd dros ½ y clingfilm' cyn lapio'r parsel yn dynn. Bydd yr olew yn stopio'r pasta rhag glynu.
Stemio'r parseli am ryw 8-10 munud.
Y Saws
Toddi'r menyn a ffrio'r winwns a'r garlleg nes yn feddal, ychwanegu'r purée tomato a'u coginio am 2 -3 munud. Ychwanegu'r tomatos, pinsied o halen a phupur a'u coginio am 10 munud. Yna, ychwanegu'r gwin a sudd y lemwn a mudferwi'r cyfan ar wres isel am 45 munud. Cymysgu'r Mascarpone i'r saws yn ystod 10 munud olaf y coginio. Pan fydd y saws wedi oeri ychydig, chwirlo'r cyfan nes yn llyfn.
I weini
Torri'r parsel samwn mewn hanner ar ongl, a'i eistedd ar ganol y plât. Arllwys ychydig o saws o amgylch y parsel.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley