dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TARTEN GAWS CENARTH A CHENNIN

TARTEN GAWS CENARTH A CHENNIN

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 2

CYNHWYSION

75g o flawd plaen
100g o flawd cyflawn
100g o fenyn heb halen - wedi'i dorri'n giwbiau
2 lwy fwrdd o ddw^r
Halen Môn
Pupur du
1 llwy de o bersli ffres
1 wy - wedi'i guro

Y Llenwad
25g o fenyn heb halen
1 winwnsyn - wedi'i dorri'n fân
2 gennin - wedi'u glanhau a'u torri'n fân
2 llwy de o syfi (chives) - wedi'u torri'n fân
2 wy
125ml o laeth llawn
125ml o hufen dwbl
Halen Môn
Pupur du
90g o gaws Lancych - wedi gratio
60g o gaws Perl Wen - wedi torri'n 6 thafell
DULL
Hidlo'r blawd i fowlen gymysgu fawr gyda phinsied o halen a phupur.
Rhwbio'r menyn i mewn i'r blawd i greu briwsion.
Arllwyswch y dw^r dros y cyfan a'i gymysgu i greu toes meddal.
Lapio'r toes mewn ‘cling film' a'i roi yn yr oergell am hanner awr.

Iro'r tuniau a rholio'r toes yn weddol denau, rhoi'r toes yn y tuniau a ‘baking beans' ar ben y toes. Ei bobi mewn ffwrn gynnes 220'C am 7 munud. Brwsio'r toes gydag wy wedi'i guro a'i bobi am 5 munud ychwanegol cyn ei adael i oeri.

Mewn ffreipan fawr toddi'r menyn a choginio'r winwns a'r garlleg nes yn feddal. Ychwanegu'r cennin a'u coginio dan gaead – 5-6 munud ar wres cymedrol.

Mewn powlen, curo'r wyau gyda'r llaeth, hufen, syfi a'r halen a phupur.

Pan fydd y toes wedi oeri ychydig, rhoi haenen o'r gymysgedd winwns ar ei ben gydag ychydig o gaws Lancych, mwy o winwns a darn o gaws Perl Wen i orffen. Arllwys digon o'r gymysgedd wy i fewn i'r darten i'w llenwi. Ei phobi yn y ffwrn am 10-15 munud cyn gweini.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY