DULL
Mewn sosban digon o faint i ddal yr eirin nes ymlaen, toddi'r siwgr gyda'r gwin, pod fanilla, peppercorns a chroen y lemwn dros wres cymedrol.
Rhoi'r eirin yn y saws, eu mudferwi, dan gaead am tua 15 munud nes i'r saws dewhau. Ychwanegu sudd y lemwn a mud ferwi'r cyfan am tua 10 munud.
Taenu ychydig o flawd ar y bwrdd a rholio'r toes allan. Torri wyth o gylchoedd, brwsio ychydig o olew a chawod o siwgr drostynt a'u pobi yn ôl cyfarwyddiadau'r pecyn.
Haneru'r passion fruit' a thynnu'r ffrwyth o'r canol a chymysgu mewn powlen gyda'r mefus.
I weini adeiladu twr gyda llwyed o crème fraiche, eirin, crème fraiche, toes, crème fraiche ac eirin arall a llwyed o fefus a passion fruit' o amgylch y plât.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley