DULL
Mewn powlen cymysgu'r bara lawr, ceirch, croen a sudd yr oren.
Cynhesu'r olew mewn padell ffrio a choginio llond llwy o'r gymysgedd hon gan greu siâp cacen.
Cynhesu'r stemar. Rhoi pinsied o halen a phupur dros y penfras.
Ei roi yn y stemar gyda'r samphire a'r cocos. Rhoi caead am ei phen a'i stemio am 5-6 munud.
Mewn padell ffrio toddi hanner owns o fenyn a meddalu'r shallots. Ychwanegu'r stoc a'r gwin gwyn a'i leihau am ychydig. Yn olaf, ychwanegu'r hufen a'r persli a'i leihau eto cyn rhoi hanner owns o fenyn yn y saws a'i gymysgu'n dda.
Tynnu'r cocos o'r cregyn.
Gweini'r pysgodyn ar ben y gacen o bara lawr. Rhoi lwyaid o saws o amgylch y plât, gydag ychydig o gocos a thomatos, a'i fwyta yn syth.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley