DULL
Rhoi'r chillis hir, garlleg a'r finegr mewn sosban a'u mud ferwi dros wres cymedrol am tua 4 munud, nes i'r chillis feddalu.
Eu gadael i oeri cyn malu'r chillis, garlleg a llond llwy o'r finegr gyda phestl a mortar. Yna, cymysgu gyda llwy fwrdd o olew olewydd, ac arllwys i mewn i'r gymysgedd finegr.
Tynnu'r pen oddi ar y corgimychiaid a thorri i lawr y cefn gan fod yn ofalus rhag torri drwy'r cig a gofalu i adael y cyffon yn gyfan. Agor pob corgimwch a thynnu'r gwythïennau du a rhoi'r corgimychiaid yn yr oergell.
Rhoi'r corgimychiaid mewn powlen fawr ac arllwys y saws drostynt eu gorchuddio a'i cadw yn yr oergell am oleia awr.
Tynnu'r gorgimychiaid allan o'r saws, dod â'r saws i'r berw a'i adael i ffrwtian am 5 munud i'w tewhau.
Rhoi'r corgimychiaid ar ffyn,sydd wedi eu trochi mewn dwr oer rhag ei llosgi, ychydig o saws drostynt, eu coginio ar y bbq am ryw 2-3 munud ar bob ochr.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley