DULL
Rhoi'r darnau o ffrwythau mewn powlen fawr gyda'r rym a'r siwgr, eu troi yn ofalus nes gorchuddio'r ffrwythau i gyd. Eu gorchuddio a'u gadael am tua awr.
Arllwys y saws i sosban fach.
Dod a'r saws i'r berw dros wres cymedrol, ei adael i leihau a ffrwtian ar wres isel am tua 5 munud, nes iddo droi'n sudd trwchus. Tynnu'r sosban oddi ar y gwres. Gan ddefnyddio chwisg, ychwanegu'r menyn.
Rhoi amrywiaeth o ffrwythau ar y sciwars pren, gan adael ychydig o le rhwng pob darn o ffrwyth fel eu bod i gyd yn coginio. Coginio'r ffrwythau ar farbeciw cynnes am 5-8 mun bob ochr, defnyddio'r saws i'w gorchuddio yn ystod munudau ola' y coginio.
Eu gweini gydag ychydig o'r saws.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley