DULL
Coginiwch y cyw iâr mewn olew olewydd tan ei fod yn brownio. Ychwanegwch y lardons i'r caserol a browniwch hwy er mwyn ychwanegu mwy o flas. Ychwanegwch y winwns, y moron, garlleg, oregano, pupur a phinsied o halen. Ychwanegwch y stoc cyw iâr dros y cyfan. Rhowch gaead ar ei ben a mudferwch am tua awr.
Twmplenni Lemwn a Teim:
Mewn powlen, cymysgwch y blawd, siwet, teim a halen yn dda ac ychwanegwch bupur du, croen lemwn a dwr. Cymysgwch y cynhwysion i gyd gan greu toes. Siapiwch y toes yn beli bach ac yna rhowch hwy ar ben y caserol i goginio am chwarter awr ychwanegol.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley